Amddiffyn defnyddwyr yw prif flaenoriaeth Ofgem.
Gwnawn hyn drwy:
· hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol, pan fydd hynny’n briodol, a
· chadw rheolaeth effeithiol ar gwmnïau monopoli sy’n rheoli’r pibellau nwy a’r gwifrau trydan.
Mae gennym flaenoriaethau eraill hefyd. Byddwn yn:
· cynorthwyo i sicrhau cyflenwad ynni Prydain trwy hyrwyddo marchnadoedd nwy a thrydan cystadleuol - a rheoleiddio er mwyn gofalu bod buddsoddiad digonol yn y rhwydweithiau
· cynorthwyo marchnadoedd a diwydiant nwy a thrydan i gyflawni gwelliannau amgylcheddol mewn modd mor effeithiol ag sy’n bosibl
· ystyried anghenion cwsmeriaid bregus, yn enwedig pobl oedrannus, pobl ag anableddau a’r rhai ar incwm isel
Sut cawn ni ein rheoli?
Rheolir Ofgem gan Awdurdod sy’n cynnwys aelodau anweithredol a gweithredol. Mae aelodau anweithredol yn cynnig ystod o brofiad ac arbenigedd, yn amrywio o brofiad mewn diwydiant a pholisi cymdeithasol i’r amgylchedd, cyllid ac Ewrop. Mae’r aelodau gweithredol yn cynnwys Prif Weithredwr Ofgem a Rheolwyr Gyfarwyddwyr. Yr Awdurdod sy’n penderfynu ar strategaeth, yn gwneud pob penderfyniad pwysig ac yn gosod blaenoriaethau polisi.
Sut cawn ni ein hariannu?
Ariennir Ofgem gan y cwmnïau ynni sydd â thrwydded i reoli’r seilwaith nwy a thrydan. Mae Ofgem yn gweithredu dan drefn rheoli costau llai na RPI-3 y cant a fydd yn gostwng ein costau o fwy na £5 miliwn mewn termau real erbyn 2010.
Cysylltu ag Ofgem
Nid yw Ofgem yn ymdrin â chwynion nac ymholiadau defnyddwyr yn uniongyrchol. Os ydych yn ddefnyddiwr ynni domestig neu fasnachol, cysylltwch â'ch cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith yn gyntaf. Os ydych eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'ch cwmni cyflenwi ynni neu weithredwr rhwydwaith, neu os oes angen gwybodaeth a chyngor arnoch ar faterion cyffredinol yn ymwneud ag ynni, cysylltwch â Cyswllt Defnyddwyr ar: 08454 04 05 06.
Gallwch gysylltu â Cyswllt Defnyddwyr yn uniongyrchol drwy ei wasanaeth cwynion ac ymholiadau ar-lein yn www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
Mae Tîm Materion Defnyddwyr Ofgem yn trin ymholiadau am bolisïau Ofgem ac yn sicrhau bod materion yn cael eu trosglwyddo at Cyswllt Defnyddwyr yn ôl y galw. Gallwch gysylltu â nhw ar: 020 7901 7295, trwy ffacs ar: 0207 901 7196, neu drwy e-bost ar: consumeraffairs@ofgem.gov.uk
Cysylltiadau pellach
Ymchwil a Gwybodaeth:
Gall y Tîm Ymchwil a Gwybodaeth ateb ymholiadau ymchwil am waith Ofgem. Nodwch na all y tîm ddelio ag ymholiadau cyffredinol gan ddefnyddwyr.
Cysylltwch â: library@ofgem.gov.uk
Ymholiadau ffôn: 020 7901 7003 neu 020 7901 7119
Ffacs: 020 7901 7378
Ymweliadau trwy apwyntiad yn unig - angen 24 awr o rybudd
Canolfan Ddosbarthu:
Am gopïau caled o gyhoeddiadau argraffedig, cysylltwch â:
Ffôn: 020 7901 7116
E-bost: distribution@ofgem.gov.uk
Gwefan:
Am faterion technegol yn ymwneud â’r safle hwn, cysylltwch â: webmaster@ofgem.gov.uk